20 Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i'w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau; dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched.
21 Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant, a'u traed ni chwyddasant.
22 A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan.
23 Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd, ac a'u dygaist hwynt i'r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i'w meddiannu.
24 Felly y meibion a aethant i mewn, ac a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid, o'u blaen hwynt, ac a'u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys.
25 A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.
26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o'r tu ôl i'w cefn, a'th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat; ac a gablasant yn ddirfawr.