Nehemeia 9:22-28 BWM

22 A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan.

23 Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd, ac a'u dygaist hwynt i'r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i'w meddiannu.

24 Felly y meibion a aethant i mewn, ac a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid, o'u blaen hwynt, ac a'u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys.

25 A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.

26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o'r tu ôl i'w cefn, a'th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat; ac a gablasant yn ddirfawr.

27 Am hynny ti a'u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a'u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a'u gwrandewaist hwynt o'r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a'u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.

28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o'r nefoedd a wrandewaist, ac a'u gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.