Nehemeia 9:28-34 BWM

28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o'r nefoedd a wrandewaist, ac a'u gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.

29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i'w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.

30 Er hynny ti a'u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd.

31 Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt.

32 Ac yn awr, O ein Duw ni, y Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o'th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i'n brenhinoedd, i'n tywysogion, ac i'n hoffeiriaid, ac i'n proffwydi, ac i'n tadau, ac i'th holl bobl, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.

33 Tithau ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninnau a wnaethom yn annuwiol.

34 Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a'n tadau, ni chadwasant dy gyfraith, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, na'th dystiolaethau, y rhai a dystiolaethaist wrthynt.