3 A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i'r Arglwydd eu Duw.
4 Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw:
5 A'r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.
6 Ti yn unig wyt Arglwydd: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'u holl luoedd hwynt, y ddaear a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.
7 Ti yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a ddetholaist Abram, ac a'i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham:
8 A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i'w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebusiaid, a'r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt.
9 Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch: