35 A hwy ni'th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o'u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.
36 Wele ni heddiw yn weision; ac am y wlad a roddaist i'n tadau ni, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni, wele ni yn weision ynddi.
37 A mawr yw ei thoreth hi i'r brenhinoedd a osodaist arnom ni am ein pechodau: ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrff, ac ar ein hanifeiliaid, yn ôl eu hewyllys; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr.
38 Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr, ac yn ei ysgrifennu; ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a'n hoffeiriaid, yn ei selio.