9 Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch:
10 A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i'r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn.
11 Y môr hefyd a holltaist o'u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a'u herlidwyr a fwriaist i'r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion:
12 Ac a'u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd‐ddi.
13 Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o'r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus:
14 A'th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was:
15 Bara hefyd o'r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o'r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.