5 A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.
6 A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.
7 Bydd Effraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win: a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd.
8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant.
9 A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyda'u plant, a dychwelant.
10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.
11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.