Sechareia 11 BWM

1 Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.

2 Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf.

3 Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.

4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; Portha ddefaid y lladdfa;

5 Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a'u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, am fy nghyfoethogi: a'u bugeiliaid nid arbedant hwynt.

6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr Arglwydd; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o'u llaw hwy.

7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.

8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau.

9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.

10 A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â'r holl bobl.

11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr Arglwydd oedd hyn.

12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian.

13 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i'r crochenydd.

14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

15 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.

16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14