5 A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6 Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.
7 Yr Arglwydd a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda.
8 Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr Arglwydd breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thŷ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr Arglwydd o'u blaen hwynt.
9 Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem.
10 A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.
11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.