9 Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem.
10 A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.
11 Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.
12 A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu tŷ Dafydd wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;
13 Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;
14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.