1 Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.
2 A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o'r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o'r wlad.
3 A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a'i fam a'i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd: a'i dad a'i fam a'i cenedlasant ef a'i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo.
4 A bydd y dydd hwnnw, i'r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo:
5 Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid.