5 Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a'm dysgodd i gadw anifeiliaid o'm hieuenctid.
6 A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y'm clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.
7 Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a'r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.
8 A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a'r drydedd a adewir ynddo.
9 A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.