1 Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di.
2 Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.
3 A'r Arglwydd a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.
4 A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua'r dwyrain a thua'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua'r gogledd, a'i hanner tua'r deau.
5 A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr Arglwydd fy Nuw, a'r holl saint gyda thi.
6 A'r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll:
7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.