14 A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.
15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.
16 A bydd i bob un a adawer o'r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll.
17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.
18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll.
19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll.
20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor.