17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.
18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â'r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll.
19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll.
20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor.
21 Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw.