7 Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.
8 A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a'u hanner tua'r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn.
9 A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd, a'i enw yn un.
10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o'r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin.
11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.
12 A hyn fydd y pla â'r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.
13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.