1 Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur.
2 A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.
3 Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.
4 Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.