1 A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffroir un o'i gwsg,
2 Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno, a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef;
3 A dwy olewydden wrtho, y naill o'r tu deau i'r badell, a'r llall o'r tu aswy iddi.
4 A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?
5 A'r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd.
6 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd.