5 A'r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd.
6 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd.
7 Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.
8 Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd,
9 Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen: a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hebryngodd atoch.
10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda'r saith hynny: llygaid yr Arglwydd ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.
11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i'r canhwyllbren, ac ar ei aswy?