8 Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd,
9 Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen: a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hebryngodd atoch.
10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda'r saith hynny: llygaid yr Arglwydd ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.
11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i'r canhwyllbren, ac ar ei aswy?
12 A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid?
13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd.
14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.