7 Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.
8 Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.
9 A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd.
10 Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned â'r effa?
11 Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.