1 Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.
2 Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,
3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.
4 Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?
5 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.