2 Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,
3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.
4 Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?
5 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.
6 Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheudir.
7 A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.
8 Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.