1 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Dareius y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu;
2 Pan anfonasent Sereser, a Regemmelech, a'u gwŷr, i dŷ Dduw, i weddïo gerbron yr Arglwydd,
3 Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?
4 Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
5 Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?
6 A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?
7 Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a'r dyffryndir?