15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dŷ Jwda: nac ofnwch.
16 Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth;
17 Ac na fwriedwch ddrwg neb i'w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd.
18 A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
19 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.
20 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer:
21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i'r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd: minnau a af hefyd.