20 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer:
21 Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i'r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd: minnau a af hefyd.
22 Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr Arglwydd.
23 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gŵr o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom fod Duw gyda chwi.