7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul.
8 A mi a'u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn Dduw mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.
9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd, fel yr adeiledid y deml.
10 Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i'r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog.
11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd Arglwydd y lluoedd.
12 Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaear a rydd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn.
13 A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo.