1 Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel.
2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn.
3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.
4 Wele, yr Arglwydd a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân.
5 Ascalon a'i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir.
6 Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.
7 A mi a gymeraf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad.