7 A mi a gymeraf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i'n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad.
8 A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â'm llygaid.
9 Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen.
10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a'r march oddi wrth Jerwsalem, a'r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd: a'i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaear.
11 A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.
12 Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg:
13 Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y'th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus: