1 Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
2 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl.
3 Pa fudd sydd i ddyn o'i holl lafur a gymer efe dan yr haul?
4 Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.
5 Yr haul hefyd a gyfyd, a'r haul a fachlud, ac a brysura i'w le lle y mae yn codi.
6 Y gwynt a â i'r deau, ac a amgylcha i'r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.
7 Yr holl afonydd a redant i'r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o'r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.
8 Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed.
9 Y peth a fu, a fydd; a'r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.
10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni.
11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
12 Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;
13 Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo.
14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.
16 Mi a ymddiddenais â'm calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o'm blaen i yn Jerwsalem; a'm calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.
17 Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.
18 Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.