3 Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua'r deau neu tua'r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.
4 Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a'r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.
5 Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.
6 Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.
7 Melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul.
8 Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll; eto cofied ddyddiau tywyllwch; canys llawer fyddant. Beth bynnag a ddigwydda, oferedd yw.
9 Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll.