1 Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt:
2 Cyn tywyllu yr haul, a'r goleuni, a'r lleuad, a'r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw:
3 Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri;
4 A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a'i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd: