8 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
9 A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i'r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.
10 Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a'r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.
11 Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.
12 Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i'r cnawd.
13 Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.
14 Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.