1 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a'th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd.
2 Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna?
3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd.
4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd:
5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth: