16 Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth.
17 Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
18 Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i'r neb a fydd ar fy ôl i.
19 A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd.
20 Am hynny mi a droais i beri i'm calon anobeithio o'r holl lafur a gymerais dan yr haul.
21 Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.
22 Canys beth sydd i ddyn o'i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul?