18 Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i'r neb a fydd ar fy ôl i.
19 A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd.
20 Am hynny mi a droais i beri i'm calon anobeithio o'r holl lafur a gymerais dan yr haul.
21 Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.
22 Canys beth sydd i ddyn o'i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul?
23 Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a'i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
24 Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn.