21 Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.
22 Canys beth sydd i ddyn o'i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul?
23 Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a'i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
24 Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn.
25 Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a'i mwynhâi, o'm blaen i?
26 Canys i'r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i'r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i'w roddi i'r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.