3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd.
4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd:
5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth:
6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed:
7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem:
8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion.
9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem: a'm doethineb oedd yn sefyll gyda mi.