6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed:
7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem:
8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion.
9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem: a'm doethineb oedd yn sefyll gyda mi.
10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o'm holl lafur.
11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.
12 A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes.