9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem: a'm doethineb oedd yn sefyll gyda mi.
10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o'm holl lafur.
11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.
12 A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes.
13 Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch.
14 Y doeth sydd â'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll.
15 Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i'r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd.