14 Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.
15 Y peth a fu o'r blaen sydd yr awr hon; a'r peth sydd ar ddyfod a fu o'r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.
16 Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.
17 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a'r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.
18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.
19 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i'r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.
20 Y mae y cwbl yn myned i'r un lle: pob un sydd o'r pridd, a phob un a dry i'r pridd eilwaith.