7 Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;
8 Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9 Pa fudd sydd i'r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio?
10 Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.
11 Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o'r dechreuad hyd y diwedd.
12 Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
13 A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o'i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.