3 Gwell na'r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.
4 A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.
5 Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.
6 Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.
7 Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.
8 Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
9 Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur.