9 Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.
10 Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na'r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.
11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i'w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i'w perchennog, ond eu gweled â'u llygaid?
12 Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.
13 Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i'w perchennog.
14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.
15 Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o'i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.