1 Y mae drwg a welais dan haul, a hwnnw yn fawr ymysg dynion:
2 Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisiau dim i'w enaid a'r a ddymunai; a Duw heb roi gallu iddo i fwyta ohoni, ond estron a'i bwyty. Dyma wagedd, ac y mae yn ofid blin.
3 Os ennill gŵr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bo dyddiau ei flynyddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth; mi a ddywedaf, mai gwell yw erthyl nag ef.
4 Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a'i enw a guddir â thywyllwch.
5 Yntau ni welodd mo'r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i'r llall.
6 Pe byddai efe fyw ddwy fil o flynyddoedd, eto ni welodd efe ddaioni: onid i'r un lle yr â pawb?
7 Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.