7 Holl lafur dyn sydd dros ei enau, ac eto ni ddiwellir ei enaid ef.
8 Canys pa ragoriaeth sydd i'r doeth mwy nag i'r annoeth? beth sydd i'r tlawd a fedr rodio gerbron y rhai byw?
9 Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.
10 Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â'r neb sydd drech nag ef.
11 Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?
12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?