13 Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe?
14 Yn amser gwynfyd bydd lawen; ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef.
15 Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni.
16 Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y'th ddifethit dy hun?
17 Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser?
18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll.
19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.