18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll.
19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.
20 Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.
21 Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio.
22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.
23 Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf.
24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a'i caiff?