10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd.
11 Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.
12 Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i'r rhai a ofnant Dduw, y rhai a arswydant ger ei fron ef.
13 Ond ni bydd daioni i'r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw.
14 Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
15 Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o'i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.
16 Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â'i lygaid na dydd na nos;)