1 Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll; bod y cyfiawn, a'r doethion, a'u gweithredoedd, yn llaw Duw: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o'u blaen.
2 Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i'r cyfiawn, ac i'r annuwiol; i'r da ac i'r glân, ac i'r aflan; i'r neb a abertha, ac i'r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a'r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu.
3 Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.
4 Canys i'r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw.
5 Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.
6 Eu cariad hefyd, a'u cas, a'u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.